Diogelwch

Er y gellir gor-ddweud peryglon cerdded yn y mynyddoed, 'dyw tramwyo'r 14 brig ddim yn antur heb ei pheryglon. Mae ffitrwydd a phrofiad ym mynyddoedd y DU yn angenrheidiol er mwyn tramwyo'n ddiogel.

Bydd tramwyad angen y gallu i ffeindio'ch ffordd, efallai yn ystod y nos a/neu mewn tywydd gwael. Daw tywydd gwael a her arbennig dros 3,000 troedfedd ac ymhell o'r ffordd. Mae offer Llywio Lloeren (GPS) yn hynod gywir ond yn dibynnu ar fatris. Dylech gario map a chwmpawd bob amser.

Gallai llithriad bach fod â chanlyniadau difrifol. Crib Goch (yn y llun) yw'r enghraifft orau o dirwedd serth lle gall fod angon sgramblo, ond mae daear sgramblo tebyg dan droed ar Tryfan a Pen Y Ole Wen hefyd.

Mae Criwiau Achub Mynyddau yn gallu cadarnhau bod blinder yn ffactor mewn nifer fawr o ddamweiniau ar y mynydd. Mae'n llawer mwy tebygol y gallwch wneud camgymerid wrth scramblo a ffeindio'ch ffordd pan ydych wedi blino. Mae llawer o lefydd lle nad yw ffôn symudol yn gweithio tra'n tramwyo.

Byddai'n beth call ymweld â phob un o'r tri grwp o fynyddoedd ymlaen llaw, cyn rhoi gynnig ar dramwyo'r cyfan. Mae diwrnod yn y mynyddoedd ar y Carneddau'n brofiad eithriadol ar arwynebedd tir dros 3,000 troedfedd mwyaf y DU heblaw'r Alban. Mae taith mynydd o Tryfan i'r Garn yn un o'r dyddiau gorau ar y mynydd y gallwch obeithio'i gael. Mae esgyn yr Wyddfa cyn codiad haul yn eich galluogi i osgoi'r tyrfeydd a mwynhau hud arbennig bod ar frig y mynydd uchaf yng Nghymru. Mwynhewch nhw'n unigol cyn ymgeisio'r cyfan gyda'i gilydd!

Mae sawl lle ar y we lle gellir cael cyngor syml am ddillad ac esgidiau mynydda. Gall aelodau'r Gymdeithas gael gostyngiad sylweddol mewn rhai siopau tu allan lleol, ond dyw offer a gwisg dda ddim yn gallu cymeryd lle profiad yn y mynyddoedd. Mae cipolwg munud-olaf ar rhagolygon tywydd Eryri yn gwbl angenrheidiol i'ch galluogi i benderfynu pa offer fydd eu hangen ar y dydd. Gall esgidiau cryfion trwm a siacedi dal dwr weithiau fod yn bwysau ychwanegol heb eu hangen a weithiau fod yn rhywbeth a all achub eich bywyd hefyd.

Os nad ydych yn hyderus eich barn am hyn mae'r Gymdeithas yn awgrymu tramwyo hefo rhywun mwy profiadol.