Llwybrau

Does yna ddim un ffordd berffaith o daclo'r 14 copa 3,000 troedfedd, mae pob math o amrywiadau'n bosibl. Mae dechrau o'r De ar yr Wyddfa hefo'r fantais y gallwch orffen ar dir haws y Carneddau pan fydd blinder yn dechrau dal i fyny hefoch.

I'r gwrthwyneb, gall fod dechrau o'r Gogledd yn fantais os byddwch yn cychwyn tra'i bod yn dywyll; a gall fod y disgyniad lawr llwybr Llanberis tua'r diwedd yn symlach nag unrhyw opsiwn oddi ar Foel Fras. O'r holl ddisgynfeydd gogleddol, hwnnw o'r bwlch rhwng Foel Fras a Drum lawr i Lyn Anafon yw'r byrraf efallai, ac yn haws na mynd dros Drum i Fwlch Y Ddeufaen.

Posibilrwydd arall yw dod lawr o ben Foel Fras tua'r de-ddwyrain tuag at Afon Dulyn i gyrraedd llwybrau sy'n arwain naill ai i Pen Y Gaer neu i faes parcio Llyn Eigiau. Ond os nad oes rhywun i'ch cyfarfod ar ben y ffordd mae'r holl ddisgyn yn hir a blinderus os ydych yn gorfod cerdded at brif ffordd.

Un ffordd boblogaidd, ond sy'n galed ar y pengliniau yw cychwyn yn syth i fyny Crib Goch ac yna, unwaith wedi tramwyo Crib Y Ddysgl at yr Wyddfa, dod lawr llwybr yr Wyddfa more bell a gorsaf Clogwyn ac yna syth lawr Cwm Hetiau. Mae'n serth iawn ar y top a'r ffordd orau yw tramwyo o'r dde i'r chwith wrth edrych lawr, gan gychwyn lle mae'r llwybr yn mynd dan y rheilffordd.

Posibilrwydd arall sy'n osgoi'r tarmac hir lawr at Nant Peris yw dod lawr crib ddwyreiniol arferol Crib Goch i Pen Y Pass, (tramwyo'r Horns tu hwnt i Fwlch Y Moch i fod yn go draddodiadol) a chymeryd y llwybr bach trwy'r ardd ar y chwith i'r Hostel Ieuenctid tuag at Llyn Cwm Ffynnon ac ymuno â llwybr y Mwynwyr sy'n dod oddi wrth gwesty Pen Y Gwryd a sy'n arwain at Fwlch Tryfan. Fyny ac i lawr crib ddeheuol Tryfan reit sydyn i gael tramwyo'r Glyderau a'r Garn tu chwith i'r arfer. Golyga Elidir daith coes ci allan ac yn ôl, ond golyga hyn y gallwch ddisgyn o Foel Goch i Cwm Cywion mewn ffordd chwim a phleserus reit lawr i Ogwen Cottage.

Y ffordd hawddaf fyny i'r Carneddau o Ogwen yw, heb os nac oni bai, y llwybr yn syth i fyny, ond gall fod y grib Ddwyreiniol o gwmpas Cwm Lloer dipyn haws ar goesau blinedig. Mae'r un peth yn gywir am ddod i lawr. Gall disgynfeydd serth flino'ch coesau llawn cymaint ac esgyn... Wrth ddod oddi ar Tryfan, y llwybr cyflymaf yw'r ochr garregog Orllewinol ac yna'r rhigl Ogleddol sy'n arwain at Milestone Butress, ond gall dilyn y linell o'r llwybr ochr Orllewinol dan Bochlwyd lawr i Ogwen fod yr un more effeithiol os y cyfunwch hynny ag esgyn yn syth i fyny Pen Yr Olau Wen. Pawb at y peth a bo, ysdywed...

Gwell cyrraedd Yr Elen gan dramwyo ar draws adain Carnedd Llywelyn i ymuno a llwybr Elen-Llewelyn ger y bwlch, yn hytrach na dringo Llewelyn gyntaf a cholli uchder. Ar wahan i hynny, mae pob ffordd posibl ar draws y 14 copa ar lwybrau eitha cyfarwydd. Yr unig eithriadau eraill ydy'r ffyrdd o ddod lawr Cwm Glas sydd i gyd yn serth a lletchwith a'r cyngor gorau ydy eu trio ymlaen llaw. Dim ond y darn sy'n dilyn y ffrwd allan o Llyn Bach sy'n reit amlwg, a 'dyw hwnnw hyd yn oed ddim yn rhy hyfryd.