nol ir arciffOwen o Fethesda

Rydw i wedi cerdded y pedair copa ar ddeg pob blynedd am y bedair blynedd ddiwethaf, ac yn gobeithio ei wneud fel ymdaith blynyddol (gan fy mod in 29 ynawr bydd hyn yn digwydd lawer gwaith eto).

Y tro hwn oedd y cyfle cyntaf i mi ei wneud ar fy mhen fy hun, a mi roedd yn braf cael mynd ar gyflymdra cyfforddus i mi. 

Mi oedd dydd Sadwrn yr unfed ar ddeg o fis Awst mor ddelfrydol ag y gallwn ei ddisgwyl - gyda chwml ysgafn, tywydd braf a gwynt cynnes. 

Fel fy arferiad, mi gychwynnais o faes parcio Penygwryd, dringo Crib Goch, Crib y Ddisgl ac yno yr wyddfa, cyn disgyn yn ol lawr i bentre Nant Peris.
Bron i Elidir Fawr fy ngorffen i! Roedd hyn yn anniwsgwyl gan fy mod i'n gallu cyrraedd y copa mewn 50 munud fel arfer, ond gwnai ddim yr un camgymeriad eto, mae'n fwystfil o fynydd wir.

Roedd nifer o bobol cyfeillgar ar y llwybrau y diwrnod hyn, sy'n ddipyn o hwb ir ysbryd - fel yn wir y mae nifer o fisgedi ceirch a digon o hylif gyda phowdr egni ynddo. Mi yfais bron i 5 litr o ddiod, ond digon ffodus roeddwn wedi gadael cyflenwadau ychwanegol yn Nant Peris a llyn Ogwen fel nad oedd angen ei gario i gyd ar unwaith.

Mi gyrhaeddais i'r copa olaf of fewn deg awr, a oedd 5 awr yn llai na pan fuais i gyda grwp o ffrindiau y tro or blaen, roeddwn yn falch iawn or gamp hwn, er yr oedd y pengliniau yn anghytuno wrth i mi gerdded yr 5 milltir yn ol lawr i Fethesda.

Gobeithio y gwelai rai ohonnoch ar y trywydd y flwyddyn nesaf...........

Owen o Fethesda